Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Golygydd | Johannes Petreius |
Awdur | Nicolaus Copernicus |
Gwlad | Palatinate-Neuburg |
Iaith | Lladin |
Dyddiad cyhoeddi | 1543 |
Genre | traethawd |
Lleoliad cyhoeddi | Nürnberg |
Prif bwnc | seryddiaeth, Copernican Revolution, heliocentrism |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llyfr gan Nicolaus Copernicus o'r pwysigrwydd mwyaf i hanes gwyddoniaeth oedd De Revolutionibus Orbium Coelestium ("Ynglŷn â chylchdroadau sfferau'r nef"). Cyhoeddwyd argraffiad cyntaf yn Nürnberg, Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, ym 1543. Mae gan y llyfr cyflwyniad i Bab Pawl III. Yn y gyfrol mae Copernicus yn cyflwyno ei theori heliosentrig ei theori i esbonio symudiadau'r planedau yn lle system geosentrig Ptolemi a dderbyniwyd yn gyffredinol ers oes yr Henfyd.
Dadleuodd Copernicus fod y bydysawd yn cynnwys wyth sffêr. Yn y sffêr mwyaf allanol oedd y sêr disymud, sefydlog; yn y canolbwynt oedd yr Haul. Roedd y planedau a oedd yn hysbys i seryddwyr ar y pryd yn cylchdroi o amgylch yr Haul, pob un yn ei sffêr ei hun, yn y drefn: Mercher, Gwener, Daear, Mawrth, Iau, Sadwrn. Fodd bynnag, roedd y Lleuad yn cylchdroi yn ei sffêr ei hun o gwmpas y Ddaear. Yr hyn yr ymddengys oedd chwyldro dyddiol yr Haul a sêr sefydlog o gwmpas y Ddaear mewn gwirionedd oedd cylchdro dyddiol y Ddaear ar ei echelin ei hun.